Residential Worker
Salary: £23,000 per annum pro-rata (£11.92 per hour)
Location: Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf
Contract/Hours: Permanent Part-time – 25 hours per week
The project is situated in easy commute of the M4 Cardiff and A470 Pontypridd/Merthyr Tydfil.
Benefits:
- 29 days annual leave PLUS bank holidays,
- Opportunity to gain professional qualifications funded by us
- Excellent training and development opportunities
- Flexible maternity
- Adoption and paternity packages
- Up to 7% employer contribution pension
- Discount portal with your favourite brands.
A UK Driving license is desirable but not essential for this role.
Vulnerable children in the UK need your help
Wherever you work in the Action for Children family, you'll be helping to change the lives of the most vulnerable children in the UK.
Last year, we helped more than 670,000 children and families across the UK. From direct work in communities to national campaigning, we are focused on making sure every child has a safe and happy childhood, and the foundations they need to thrive.
Why Action for Children?
Working here is more than a job. Everyone in the Action for Children family is passionate about protecting and supporting children. It's the sense of purpose that drives us every single day. Because we know that, when we work together, we can make a huge difference to bring lasting improvements to vulnerable children's lives.
A bit about the role
Rhondda Short Breaks provides overnight short breaks for children and young people from Rhondda Cynon Taff who have physical disability, learning disabilities and complex needs.
Young people can stay at Ash Square from the age of five years up to their 18th birthday giving them a high-quality break from home and their families some much-needed rest.
Many of the children we support may have substantial and highly complex needs and playing outside benefits their health, wellbeing and development.
How you'll help to create brighter futures
We are now looking for an experienced Residential Worker who will help guide our mix of experienced and newly established team to create the best possible environment. You will be:
- Leading with case and care planning for children and young people
- Acting as shift lead for care staff which involves taking responsibility for those in your care
- Administering medication and supporting children and young people with their personal care
- Ensuring first-class standards of Safeguarding, Health and Safety and care interventions
- Working closely with your Registered Manager and Team Leader to ensure objectives are met
- Compiling reports, care plans and updates through IT and paper-based methods use
Let's talk about you
- A Level 3 Health & Social Care or equivalent qualification or a willingness to work towards it
- Registration with Social Care Wales and completion of AWIF (All Wales Induction Framework) .
- Experience of a similar role in a children's home, residential short breaks or children's services
- Experience of supervising or receiving supervision in a care setting
- Flexibility to work shifts to meet the needs of the service which is open 7 days a week
- Understanding of Safeguarding, Confidentiality and GDPR and an awareness of social care legislation in Wales
Good to know
Application Process
There are five sections to complete: Personal Details, CV, Supporting Statement & Information, Equality & Diversity, Submission & Declaration.
Talent Pool
We know talent when we see it. But sometimes we find the right person but not for the right job. We'd love to keep your details for when the right job comes up. Let us know if you'd rather we didn't.
Contact: Scott Jones on 01923 361 778 or via email at scott.jones@actionforchildren.org.uk
Diversity, equality and inclusion
At Action for Children, we're dedicated to building a diverse, inclusive, and authentic workplace. We actively encourage applications from Black, Asian & Minority Ethnic and disabled candidates as they are under-represented within Action for Children. We want to take deliberate and purposeful action to ensure equal opportunity to all groups in society and for Action for Children.
Don't meet every single requirement?
Studies show that women and Black, Asian & Minority Ethnic people are less likely to apply for a job unless they meet every qualification. So, if you're excited about this role but your experience doesn't align perfectly with the job description, we'd love you to apply anyway. You might just be the perfect person for this role, or another role within the Action for Children family.
*******
Gweithiwr Preswyl
Cyflog: £23,000 y flwyddyn (£11.92 yr awr)
Lleoliad: Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf
Contract/Oriau: Parhaol Rhan-amser - 25 awr yr wythnos
Mae'r prosiect o fewn pellter teithio cyfleus i Gaerdydd ar yr M4 a Phontypridd/Merthyr Tudful ar yr A470.
Buddion:
- 29 diwrnod o wyliau blynyddol YN OGYSTAL Â gwyliau banc,
- Cyfle i ennill cymwysterau proffesiynol wedi'u hariannu gennym ni
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol
- Absenoldeb mamolaeth hyblyg
- Pecynnau mabwysiadu a thadolaeth
- Hyd at 7% o gyfraniad at gynllun pensiwn cyflogwr
- Porth gostyngiadau ar eich hoff frandiau.
Mae trwydded yrru y DU yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae angen eich help ar blant sy'n agored i niwed yn y DU
Ble bynnag y byddwch yn gweithio fel rhan o deulu Gweithredu dros Blant, byddwch yn helpu i newid bywydau'r plant sydd fwyaf agored i niwed yn y DU.
Y llynedd, fe wnaethom helpu mwy na 670,000 o blant a theuluoedd ledled y DU. O waith uniongyrchol mewn cymunedau i ymgyrchoedd cenedlaethol, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob plentyn yn cael plentyndod diogel a hapus, a'r sylfeini sydd eu hangen i ffynnu.
Pam Gweithredu dros Blant?
Mae gweithio yma yn fwy na swydd. Mae gan bawb yn nheulu Gweithredu dros Blant angerdd tuag at ddiogelu a chefnogi plant. Yr ymdeimlad o bwrpas sy'n ein sbarduno bob dydd. Oherwydd gwyddom, pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, y gallwn wneud gwahaniaeth enfawr drwy gyflwyno gwelliannau parhaol i fywydau plant sy'n agored i niwed.
Gair neu ddau am y swydd
Mae Gwasanaeth Seibiannau Byr y Rhondda yn darparu seibiannau byr dros nos i blant a phobl ifanc yn ardal Rhondda Cynon Taf sydd ag anableddau corfforol, anableddau dysgu ac anghenion cymhleth.
Gall pobl ifanc aros yn Ash Square o bum mlwydd oed hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed, gan roi egwyl o ansawdd uchel iddynt o'u cartrefi a seibiant haeddiannol i'w teuluoedd.
Mae gan lawer o'r plant rydym yn eu cefnogi anghenion sylweddol a chymhleth iawn ac mae chwarae yn yr awyr agored o fudd i'w hiechyd, eu llesiant a'u datblygiad.
Sut y byddwch yn helpu i greu dyfodol disglair
Rydym yn chwilio am Weithwyr Preswyl profiadol a fydd yn helpu i arwain tîm o staff profiadol a newydd er mwyn creu'r amgylchedd gorau posibl. Byddwch yn:
- Arwain y gwaith o gynllunio achosion a gofal ar gyfer plant a phobl ifanc
- Gweithredu fel arweinydd sifftiau i staff gofal sy'n golygu cymryd cyfrifoldeb dros y rhai dan eich gofal
- Gweinyddu meddyginiaeth a chynorthwyo plant a phobl ifanc gyda'u hanghenion gofal personol.
- Sicrhau safonau Diogelu, Iechyd a Diogelwch ac ymyriadau gofal o'r radd flaenaf
- Gweithio'n agos gyda'ch Rheolwr Cofrestredig ac Arweinydd Tîm i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni
- Llunio adroddiadau, cynlluniau gofal a diweddariadau drwy ddefnyddio TG a dulliau papur
Gadewch i ni sôn amdanoch chi
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol neu barodrwydd i weithio tuag ato
- Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chwblhau AWIF (Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan).
- Profiad o weithio mewn swydd debyg mewn cartref plant, rhaglenni seibiannau byr preswyl neu wasanaethau plant
- Profiad o oruchwylio neu dderbyn goruchwyliaeth mewn lleoliad gofal
- Hyblygrwydd i weithio sifftiau i fodloni anghenion y gwasanaeth sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos
- Dealltwriaeth o reolau Diogelu, Cyfrinachedd a GDPR ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru
Pethau y dylech eu gwybod
Y Broses Ymgeisio
Mae pum adran i'w cwblhau: Manylion Personol, CV, Datganiad a Gwybodaeth i Gefnogi eich Cais, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cyflwyniad a Datganiad.
Cronfa Dalent
Rydym yn adnabod talent pan fyddwn ni'n ei weld. Ond weithiau rydym yn dod o hyd i'r person iawn ond nid ar gyfer y swydd iawn. Byddem wrth ein bodd yn cadw'ch manylion nes bydd y swydd iawn yn codi. Rhowch wybod i ni os byddai'n well gennych i ni beidio â gwneud hynny.
Cysylltwch â: Scott Jones ar 01923 361 778 neu drwy e-bost yn scott.jones@actionforchildren.org.uk
Amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant
Yn Gweithredu dros Blant, rydym yn ymroddedig i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a dilys. Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac anabl gan nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn Gweithredu dros Blant. Rydym yn awyddus i gymryd camau bwriadol a phwrpasol i sicrhau cyfle cyfartal i bob grŵp mewn cymdeithas ac i bawb yn Gweithredu dros Blant.
Ddim yn bodloni pob un o'r gofynion unigol?
Mae astudiaethau'n dangos bod menywod a phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn llai tebygol o ymgeisio am swydd oni bai eu bod yn bodloni pob cymhwyster. Felly, os ydych yn teimlo'n gyffrous ynglŷn â'r swydd hon ond nad yw'ch profiad yn cyd-fynd yn berffaith â'r swydd-ddisgrifiad, byddem wrth ein bodd pe baech yn gwneud cais beth bynnag. Efallai mai chi yw'r person delfrydol ar gyfer y swydd hon, neu swydd arall o fewn teulu Gweithredu dros Blant.
IndeedMX200